Lleolir Fferm Wynt Mynydd Gorddu rhwng pentrefi Tal-y-bont a Penrhyncoch, ger pentreflan Bontgoch-Elerch yng Ngogledd Ceredigion. Mae 19 twrbin ar y fferm, gyda’r allbwn uchaf cyfun o 10.2 megawatt (MW).
Datblygwyd y fferm wynt hon yn wreiddiol gan Trydan Gwynt Cyf. – cwmni a ffurfiwyd gan Dr Dafydd Huws a Mrs Rhian Huws. Bu cydweithrediad cynnar rhwng y cwmni a RWE npower renwables (adwaenwyd fel National Wind Power ar y pryd) ar y dechrau ond bu Trydan Gwynt Cyf. Yn gweithredu’n annibynnol ar ôl 1993.
Y diweddar Dr Dafydd Huws ar fferm wynt Mynydd Gorddu
Yn 1997, yn dilyn trafferthion yn deillio o brotestiadau nifer fechan o wrthwynebwyr llafar i’r cynllun, cytunodd npower renewables i ddod yn ôl i ariannu ac adeiladu’r fferm wynt. Fel rhan o’r cytundeb daeth Trydan Gwynt Cyf. yn drefniant cyd-weithredol rhwng cwmni teulu Dr Dafydd Huws, Amgen, â RWE npower renewables. Ceidw Amgen ran arweiniol yn natblygiad a rhediad y fferm wynt.
Mae dau faint o dwrbinau tri llafn ar y fferm wynt hon. Mae saith ohonynt yn medru cynhyrchu hyd at 600 kW yr un, gydag uchder twr o tua 34 m a diamedr llafnau o 43 m. Mae’r deuddeg arall yn medru cynhyrchu hyd at 500 kW, gydag uchder twr o 35 m a diamedr llafnau o 41 m.
Cyflymder troi pob un o’r 19 o dwrbinau yw tua 30 tro y funud. Mae blwch ger yn trosi’r troad i gyflymder addas ar gyfer y generadur. Dechreua’r twrbinau gynhyrchu trydan yn awtomatig pan mae cyflymder y gwynt y cyrraedd tua 11 milltir yr awr (gwynt ysgafn iawn). Pan mae cyflymder y gwynt yn cyrraedd 33 milltir yr awr, neu ragor, mae’r generaduron yn cynhyrchu’r allbwn llawn. Os aiff cyflymder y gwynt dros 56 milltir yr awr bydd gweithrediad y twrbinau yn cael ei derfynnu, i arbed niwed ddigwydd.
Cysylltir pob twrbin, gan geblau tanddaearol, i is-orsaf ar safle’r fferm wynt. Oddi yno cysylltir â’r llinell 33 kV rhwng Bow Street a Machynlleth – sy’n bwydo’r trydan a gynhyrchir i’r rhwydwaith lleol i’w ddefnyddio’n lleol. Darperir y rhan fwyaf o’r trydan a ddefnyddir yn yr ardal rhwng Waunfawr a Machynlleth y rhan fwyaf o’r amser gan fferm wynt Mynydd Gorddu. Ac mae'r cyfanswm o drydan a gynhyrchir ar Fynydd Gorddu bob blwyddyn yn fwy na'r hyn mae'r ardal yn ei ddefnyddio yn y flwyddyn honno.
|