Gwybodaeth am y cwmni | |
Nod Cynllun Ynni Gwynt Mynydd Gorddu o’r cychwyn ar ddechrau’r nawdegau oedd gwireddu prosiect a fyddai’n dod a’r budd mwyaf posib i’r cymunedau lleol. I wneud hyn daethpwyd a chynifer a phosib o ffermydd i’r cynllun, a bwriadwyd sefydlu cronfa gymunedol, a ddaeth yn y pen draw i fodolaeth fel Cronfa Eleri, o'r cychwyn cyntaf. Er fod hynny’n arloesol ac anodd i gwmni bychan gyda phrosiect yr oedd angen £9 miliwn i’w ariannu, llwyddwyd i gadw’r prosiect o dan reolaeth leol Cwmni Trydan Gwynt. Er cael caniatad cynllunio ym 1991, datblygodd ymgyrch grwp bychan ond effeithiol o bobl yn erbyn y prosiect. Diolch i ymdrech diflino un wraig yn arbennig a ddaethai i fyw i Gwm Eleri, llesteirwyd y prosiect am gyfnod hir. A’r cynllun yn wynebu methiant daeth cwmni National Wind Power i’r adwy i’w ariannu a’i adeiladu yn Hydref 1997. O hyn ymlaen byddai cynllun Mynydd Gorddu a Chwmni Trydan Gwynt yn fenter cydweithredol rhwng National Wind Power a chwmni newydd Amgen. Bellach mae National Wind Power wedi esblygu i fod yn RWE npower renewables. |
|
Diweddarwyd gan y gwefeistr: 18-11-2012 |