Ystyrir ceisiadau am gymorth gan Gronfa Eleri tuag at ddiwedd pob blwyddyn calendr. Cyhoeddir y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (fel arfer, tua canol Ionawr bob blwyddyn) mewn hysbyseb – ym mis Rhagfyr – yn y papurau bro lleol, Papur Pawb a'r Tincer.
Os ydych am wneud cais am gymorth ariannol gan Gronfa Eleri ystyriwch yr amodau canlynol:
- A fyddai'r cynllun yn gweithredu yn yr ardal a ddiffinir yn fras fel yr un sy'n angylchynnu fferm wynt Mynydd Gorddu?
- A fyddai'r cynllun yn berthnasol i amcanion Y Gronfa, sef cefnogi: “Hybu bywyd cymdeithasol, addysgol a diwyllianol cynhenid yr ardal sydd wedi ei chanoli ar Mynydd Gorddu.”?
- A ydych yn fodlon cydymffurfio â Rheolau Cronfa Eleri?
Os ydych yn cytuno â'r amodau, ac am wneud cais, unai lawrlwythwch y ffurflen briodol ar un o'r dolennau isod (ddim ond ar gael o ganol Tachwedd tan ganol Ionawr) neu cysylltwch â Ysgrifennydd Cronfa Eleri i ofyn am gopi o'r ffurflen. Rhaid defnyddio'r ffurflen swyddogol. Gellir danfon cais i fewn unai ar ffurf electronig (sef gyrru'r ffeil MS Word isod, ar ôl ei llenwi, i'r ysgrifennydd ar e-bost neu ar bapur).
Mae Cronfa Eleri yn awr ar agor i geisiadau. Maint y gronfa eleni oedd £26,520.86. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd 11eg o Ionawr 2025 ac ni ystyriwyd unrhyw gais a ddaeth i law wedi'r dyddiad hwnnw.
Ffurflen gais ar ffurf pdf, i'w hargraffu ar gyfer ei llenwi mewn llawysgrifen du ar gael YMA*
(*Dim ond yn ystod y cyfnod rhwng canol Tachwedd a dechrau Ionawr mae'r ffurflen hon ar gael)
Gellir cyflwyno hon unai at bapur neu drwy e-bost (cyfeiriad isod)
Ffurflen gais ar gyfer ei llenwi ar gyfrifiadur gan ddefnyddio Microsoft Word ar gael YMA**
(**Dim ond yn ystod y cyfnod rhwng canol Tachwedd a dechrau Ionawr mae'r ffurflen hon ar gael)
Gellir cyflwyno hon unai at bapur neu drwy e-bost (cyfeiriad isod)
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at yr Ysgrifennydd, drwy e-bost (ymholiadau@cronfaeleri.com).
|