- Gwahoddir ceisiadau’n flynyddol o’r ardal, a ddiffinir yn fras gan yr ardal sy'n amgylchynnu fferm wynt Mynydd Gorddu, am gefnogaeth ariannol gan Y Gronfa. Bydd ffurflen gais bwrpasol ar gael ar wefan Y Gronfa neu gan Yr Ysgrifennydd. Yr unig geisiadau a ystyrir yw rhai a dderbyniwyd ar y ffurflen gais swyddogol cyn y dyddiad cau a gyhoeddir mewn hysbyseb yn y papurau bro lleol (Papur Pawb a’r Tincer) – tuag at ddiwedd pob blwyddyn calendr. Gellir derbyn cais drwy e-bost neu ar bapur. Bydd y cyhoeddiad, sy’n gwahodd ceisiadau am gymorth o’r Gronfa, yn cael ei wneud o leiaf 31 diwrnod cyn y dyddiad cau ceisiadau.
- Ym mhob blwyddyn bydd Pwyllgor Cronfa Eleri yn ystyried pa gynlluniau fydd yn fwyaf tebygol o ddod â’r budd pennaf i’r ardal, ar y pryd. Yn y cyd-destun hwn rhoddir ystyriaeth fanwl i gynlluniau lle byddai cefnogaeth Y Gronfa iddynt yn gymorth i ddenu cymorth ariannol ychwanegol gan gronfeydd eraill. Gallai’r Pwyllgor ystyried, mewn achosion unigol, wneud derbyn cefnogaeth ychwanegol yn amod derbyn cefnogaeth gan Y Gronfa.
- Ystyrir ceisiadau gan unigolion, cyrff a mudiadau lleol am gefnogaeth ariannol i cynlluniau penodedig fydd yn “hybu bywyd cymdeithasol, addysgol a diwylliannol cynhenid yr ardal sydd wedi ei chanoli ar Mynydd Gorddu”. Ni roddir cefnogaeth ariannol tuag at gostau rhedeg beunyddiol (h.y. arian refeniw) mudiadau neu glybiau. Dim ond mewn cysylltiad â chynlluniau penodedig y gellir ystyried elfen o gefnogaeth tuag at gostau refeniw.
- Disgwylir adroddiad ariannol blynyddol o fanylion gwariant (gan gynnwys anfonebau ayyb.) unrhyw gynllun a dderbyniodd gefnogaeth gan Y Gronfa.
- Gall Y Pwyllgor hawlio ad-daliad o unrhyw arian pe na dderbynir adroddiad ariannol blynyddol o fanylion gwariant unrhyw gynllun a dderbyniodd gefnogaeth gan Y Gronfa yn y flwyddyn flaenorol.
- Gall Y Pwyllgor hawlio ad-daliad o unrhyw arian pe na bai’r cymorth a roddwyd wedi ei ddefnyddio yn union i’r pwrpas y gwnaed y cais gwreiddiol amdano.
- Bydd unrhyw arian sydd yn weddill o’r arian a roddir gan Y Cwmni mewn un blwyddyn (sef £10,000 yn ôl gwerth arian yn 1998), am pa reswm bynnag, ynhyd ag unrhyw arian a ad-dalir i'r Gronfa, yn cael ei ychwanegu at yr hyn sydd ar gael i’w ddosrannu yn y flwyddyn ganlynol.
- Ni ystyrir unrhyw gais na fydd, ym marn Y Pwyllgor, yn gytnaws ag amcan Y Gronfa, fel y’i diffinir uchod.
- Ni fydd gwrthod cais mewn blwyddyn unigol yn amddifadu cyrff rhag cynnig am gefnogaeth i gynlluniau tebyg yn y blynyddoedd canlynol.
- Gellir ystyried cefnogi cynlluniau fydd yn gofyn am gyfraniadau ariannol dros gyfnod o ragor nag un flwyddyn.
- Bydd penderfyniad Y Pwyllgor yn derfynol, yn amodol ar gael eu cadarnhau gan gwmni Amgen.
- Bydd yn ofynnol i unrhyw aelod o’r Pwyllgor ddatgan diddordeb mewn unrhyw gais unigol lle y mae cysylltiad ganddynt a’r cynllun hwnnw. Ni fydd ganddynt yr hawl i fod yn rhan o’r penderfyniad ar y cais hwnnw.
- Digolledir yr Ysgrifennydd, gan Y Cwmni, am holl gostau gweinyddol rhedeg Y Gronfa a chyfarfodydd y Pwyllgor.
- Ni fydd aelodau’r Pwyllgor yn derbyn tâl am eu gwaith.
- Cymraeg yw iaith gweinyddu'r Gronfa.
|